CYNGHERDDAU DAFYDD
Dyma rai dyddiadau ar gyfer 2022:
MAWRTH 24: canu cyn gem Cymru v Awstria yn Stadiwm Caerdydd
EBRILL 2: Gwyl "Amdani Fachynlleth!" : yn y Wynnstay
EBRILL 8: Saith Seren, Wrecsam
EBRILL 23: Yr Iorwerth, Bryngwran
MAI 7: Gwyl "Felna Mai", Crymych
MAI 21: Mercure Grand, Caerlyr
MEHEFIN 3: Ring, Llanfrothen
MEHEFIN 11: Sioe Aberystwyth
MEHEFIN 17: Noson Hafan y Waun, Aberystwyth
MEHEFIN 25: Penblwydd 40 Dafydd Pantrod
GORFFENNAF 31: Llwyfan y Maes, Steddfod Tregaron
HYDREF 7: Cyngerdd Coffa Indeg, Nant-y-Ffin
Ffeithiau am Dafydd:
Fe'i ganwyd ar Awst 24ain, 1943, yn ail fab i'r diweddar Barchedig Gerallt Jones ac Elizabeth Jones. Mae ganddo dri brawd:
Arthur Morus ac Alun Ffred a'r diweddar Huw Ceredig. Fe'i ganwyd ym Mrynaman, a bu'n byw yn Llanuwchllyn, Gwyddgrug (Pencader),
Caerdydd a Phenarth cyn symud i Lanystumdwy a'r Waunfawr cyn setlo yn ei gartref presennol yn Rhos-bach, Caeathro, ger
Caernarfon, lle mae'n byw gyda Bethan ers 1988.
Yn briod a Bethan sy'n enedigol o Garnfadryn, mae ganddyn nhw ddau fab: Caio (31oed) , a fu'n newyddiadurwr ar bapur y South Wales Argus cyn mynd yn rhan o dim Cymru Fyw y BBC, a Celt (29 oed), sydd wedi graddio o Brifysgol Aberystwyth mewn Rheolaeth Busnes, ac sy'n gweithio fel dylunydd graffig gyda teledu SKY.
Plant o'i briodas gyntaf: Mae Llion yn awdur, cynhyrchydd teledu a ffilm gyda Cwmni Da, Caernarfon. Mae Elliw yn gweithio i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Caerdydd, a Telor yn gynhyrchydd newyddion i BBC Cymru.