Home / Hafan
About / Amdan
News / Newyddion
Contact / Cysylltwch
 
Dafydd Iwan

 

Cefndir Dafydd Iwan

Dr. DAFYDD IWAN B.Arch., LL.D.,
Llywydd Plaid Cymru


* Cadeirydd Cyngor Cymuned Bontnewydd 2008 - 9

*Llywodraethwr, Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon

* Cadeirydd Pwyllgor Canolfan Gymunedol Bontnewydd
* Ymddiriedolwr, Ymddiriedolaeth Clough Williams Ellis
* Cyfarwyddwr, Sain (Recordiau) Cyf.
* Cadeirydd, Cwmni Cyhoeddi Gwynn
* Ysgrifennydd, Cymdeithas Tai Gwynedd
* Doethur yn y Cyfreithiau er Anrhydedd, Prifysgol Cymru
* Aelod er Anrhydedd, Gorsedd y Beirdd
* Cymrawd Anrhydeddus Prifysgol Cymru, Aberystwyth a Bangor
* Aelod o'r Academi Gymreig

* Awdur nifer o lyfrau, a chyfansoddwr dros 250 o ganeuon

*Wedi cyhoeddi nifer fawr o Gryno-Ddisgiau, DVD, ac wedi ymddangos ar deledu

yn rheolaidd dros gyfnod o 45 o flynyddoedd

*Pregethwr cynorthwyol

Manylion Personol:
Dyddiad geni: Awst 24ain, 1943
Yn briod a Bethan; mae ganddynt ddau fab, Caio (17 oed) a Celt (15oed).


Plant o'i briodas gyntaf: Llion, Elliw a Telor. Mae Llion yn awdur, cynhyrchydd teledu a ffilm, ac yn darlithio yn y Brifysgol, Bangor.

Mae Elliw yn Swyddog Iaith yng Nghanolfan y Mileniwm, Bae Caerdydd, a Telor yn ohebydd newyddion i BBC Cymru.

 

2005: Celt, Bethan a Caio gydag Ynys Enlli yn y pellter Elliw, Llion, Caio, Telor a Celt Dafydd a Bethan ar ben Tre'r Ceiri, Yr Eifl

DAFYDD, BETHAN, CAIO A CELT AR WYLIAU GYDA HUW A MARGARET CEREDIG YN ROVINJ, CROASIA, GORFFENNAF 2008

 

 

Gwaith:
Cyfarwyddwr Cwmni SAIN (Recordiau) Cyf., Canolfan Sain, Llandwrog, Caernarfon, Gwynedd LL54 5TG (01286) 831111 (Ffacs 831497).
Cwmni SAIN yw prif gwmni recordio Cymru, yn cynhyrchu cerddoriaeth ar CD, DVD a fideo ar gyfer marchnad byd-eang, hefyd yn cynhyrchu deunydd aml-gyfryngol ar fideo, CD, CD-ROM a DVD. Cyfleusterau Ol-gynhyrchu ar gyfer sain a theledu, a'r llyfrgell gerddoriaeth Gymreig fasnachol fwyaf yn y byd. Yn cyflogi 35 yn Llandwrog a Chaernarfon.

Cyfrifoldebau eraill:
Ysgrifennydd Cymdeithas Tai Gwynedd (elusen); Cadeirydd Cwmni Cyhoeddi Gwynn; Aelod o Ymddiriedolaeth Portmeirion. Pregethwr lleyg. Cadeirydd Pwyllgor y Ganolfan, Bontnewydd. Aelod yng Nghapel Caeathro.

Cyhoeddiadau:
Dwy gyfrol hunan-gofiannol, 2 gyfrol o ganeuon, 20 albym a 4 fideo a 2 DVD.

Cymdeithasau:
Amnest Rhyngwladol, "Conscience" (dros yr hawl i beidio talu trethi am arfau rhyfel). Cyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Un o aelodau gwreiddiol Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn, ac Antur Waunfawr (y Ganolfan i rai ag anabledd dysgu).