|
 
MAE'R RAS AM LYWYDDIAETH PLAID CYMRU WEDI DECHRAU! - DYN Y BOBOL YN ERBYN DYN SAN STEFFAN
(COFIWCH HYN: BYDD PLEIDLAIS I DAFYDD IWAN YN CADW DAFYDD AC ELFYN YN ARWEINYDDIAETH Y BLAID)
Llythyr gan Lywydd Plaid Cymru, Dafydd Iwan B.Arch., LL.D.
i aelodau Plaid Cymru.
(Gallwch ymaelodi ym Mhlaid Cymru unrhywbryd cyn Gorffennaf 11eg i gael pleidlais yn etholiad y Llywyddiaeth)
Annwyl gyd-genedlaetholwyr,
Nodyn byr yw hwn i'w gwneud hi'n berffaith glir, fel yr eglurais i Elfyn beth amser yn ôl, fy mod yn bwriadu sefyll fel Llywydd am un tymor eto. Prif rôl y llywydd bellach yw cadw mewn cyswllt gyda'r aelodau ar hyd a lled y wlad, a'u hannog i ddal ati i ymgyrchu, a chredaf fy mod i mewn sefyllfa ddelfrydol i wneud hynny. Mae perygl gwirioneddol, yn enwedig yn yr hinsawdd wleidyddol bresennol lle mae sinigiaeth arswydus tuag at wleidyddion a sefydliadau a phleidiau gwleidyddol, i aelodau cyffredin ein plaid ninnau i ymddieithrio oddi wrth ein haelodau etholedig. Fy rôl i yw cadw'r cyswllt hwn yn fyw, a chredaf ei bod yn haws gwneud hynny'n effeithiol trwy beidio bod yn rhan o "swigen" San Steffana Bae Caerdydd.
Roedd ein plaid yn blaid ranedig iawn pan ddes i'n Llywydd yn 2003, a chredaf fy mod i wedi chwarae rhan allweddol yn y broses o dynnu'r blaid at ei gilydd fel ei bod yn blaid llawer hapusach, a llawer parotach i weithio'n gytun o dan arweinyddiaeth ardderchog Ieuan. Nid yw hyn yn gyfystyr â bod yn blaid lle mae pawb yn cytuno ar bopeth, ond fod yr aelodau, etholedig ac anetholedig, yn gweithredu bob amser yn yr ysbryd fod achos Cymru yn bwysicach nag unrhyw deimladau neu uchelgais bersonol.
Wrth i Blaid Cymru fod yn rhan o lywodraeth, ac wrth i Gymru symud yn nes o hyd at ymreolaeth gyflawn, y mae'n demtasiwn barhaus inni gyfaddawdu ar rai materion llosg ac anodd. Bydd gennyf rai pethau i'w dweud ar rai o'r materion hynny yn ystod fy ymgyrch am y llywyddiaeth.
Gobeithio y câf eich cefnogaeth i barhau yn fy swydd am un tymor arall.
Yr eiddoch, dros Gymru,
Dafydd Iwan.
CANLYNIADAU GWYCH ETHOLIADAU LLEOL MAI 1AF, 2008.
Cafwyd y canlyniadau gorau erioed i Blaid Cymru yn yr etholiadau lleol eleni. O ganlyniad, mae Plaid Cymru yn rheoli, neu a llaw gadarn ar y llyw yng Ngwynedd, yng Nghaerffili , yng Nghonwy, yn Ynys Mon ac yng Nghaerdydd. Rydym hefyd a'r grwp mwyaf, ac yn barod i gymryd yr awennau os bydd y clymbleidiau yn methu, yng Nghaerfyrddin ac yng Ngheredigion. Ac am y tro cyntaf, rydym a chynghorwyr yn Wrecsam a Thorfaen, ac wedi torri drwodd go iawn mewn llefydd allweddol a fu'n dalcen caled yn y gorffennol, megis Llanelli a Bangor . Newyddion da pellach oedd ennill tir yn ol yn Rhondda Cynon Taf, gydag enillion sylweddol yng Nghwm Cynon.
Yr unig beth sy'n gadael blas drwg yw'r modd y mae ymgeiswyr Llais Gwynedd wedi llwyddo i dynnu safon yr ymgyrchu i'r baw a'r llaid. Ni allaf gofio unrhyw blaid yn defnyddio gymaint o gelwydd ac ymosodiadau personol mewn ymgyrch etholiad erioed, ac mae'n sarhad ar enw Cymru fod y fath ymddygiad yn cael ei ganiatau gan bobol sy'n esgus bod yn fwy "gonest" ac yn fwy egwyddorol na phawb arall.
Arweinydd cofrestredig Llais Gwynedd yw Owain Williams, a dyma gopi o lythyr a ddanfonais ato yn ystod yr ymgyrch (nid ar ol y canlyniad), sef ar Ebrill 27ain:
AT: OWAIN WILLIAMS: Yr Erw Wen, Llanllyfni, Caernarfon, Gwynedd, LL54 6SY
27 Ebrill 08
Annwyl Owain Williams,
Ysgrifennaf atoch yn rhinwedd fy swydd fel Llywydd Plaid Cymru, ac fel Cadeirydd grwp cynghorwyr Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd gan mai chi sydd wedi eich cofrestru fel arweinydd plaid “Llais Gwynedd”. Y mae’n ofid calon imi, ac i lawer o’r cyhoedd, fod nifer o ymgeiswyr Llais Gwynedd wedi ymladd yr etholiadau presennol mewn modd anonest a chelwyddog, ac y mae’n ddyletswydd arnoch i wneud datganiad yn condemnio’r tactegau hyn, ac yn datgysylltu’r blaid oddi wrth ymddygiad o’r fath.
Mi roddaf rai enghreifftiau yn unig:
Mae Aeron M. Jones, eich ymgeisydd yn ward Llanwnda, wedi cyhoeddi sawl datganiad cwbl gelwyddog a di-sail amdanaf fi’n bersonol ar wefan Maes E ar y rhyngrwyd.
Mae Chris Hughes, eich ymgeisydd yma yn y Bontnewydd, wedi cyfaddef wrth fy nghyfreithiwr pan heriwyd ef ei fod wedi bod yn dweud ffeithiau celwyddog amdanaf fi wrth etholwyr y ward hon oedd yn honni fod gen i gysylltiad agos gydag adeiladydd lleol. Roedd yr honiadau celwyddog hyn yn cynnwys cyfeiriadau at Dafydd Wigley ac Alun Ffred Jones hefyd.
Mae Wendy Crisp, eich ymgeisydd ym Mhen-y-groes, yn honni mewn taflen argraffedig fod Ysgol Dyffryn Nantlle mewn perygl o gael ei chau.
Mae Alwyn Gruffydd, eich ymgeisydd yn ward Tremadog yn honni ar goedd fod gennym fwriad i gau Ysgolion Tremadog a Beddgelert – honiad cwbl ddi-sail.
Does dim raid imi ymhelaethu. Mae gwneud honiadau celwyddog fel hyn adeg etholiad yn gwbl groes i’r gyfraith, ac y mae rhai o’r honiadau personol yn fater o enllib. Os oes gennych unrhyw fath o egwyddorion fel plaid, mi ddylech ymddiheuro’n gyhoeddus, a hynny cyn yr etholiad ar Fai 1af.
Yn gywir,
Dafydd Iwan
DATGANIAD GWYL DDEWI
Gan LYWYDD PLAID CYMRU, Dafydd Iwan B.Arch., LL.D.
PLAID CYMRU A'R IAITH GYMRAEG
Mae’r rhain yn ddyddiau o siniciaeth affwysol mor bell ag y mae gwleidyddiaeth a gwleidyddion yn y cwestiwn, a hynny ddim heb achos. Mae’n effeithio pob plaid ond yn enwedig y pleidiau hynny sy’n llywodraethu, boed yn lleol neu yn genedlaethol. Yn wyneb hyn, yr her i ni ym Mhlaid Cymru yw i uno tu ol i’r egwyddorion sy’n bwysig i ni a dweud, gydag arddeliad, na fydd y blaid hon yn cefnu ar yr egwyddorion hynny.
Yr hyn yr ydw i am ganolbwyntio arni heddiw, ar ddydd ein nawdd sant, ydy’r Gymraeg ac mi fedraf ddatgan yn glir fod ein hymrwymiad i’r iaith cyn gryfed heddiw ag y bu erioed. Yr amlygiad gorau o hyn yw esiampl Cyngor Gwynedd, yr unig Gyngor sir sydd wedi cael ei reoli’n ddi-dor gan Blaid Cymru ers yr ad-drefnu ynghanol y 90au, a’r unig Gyngor sir i gael ei weinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg. Ar drothwy etholiadau mis Mai, rydym yn herio cynghorau eraill y Gymru Gymraeg, ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, i ddilyn esiampl Cyngor Gwynedd a gwneud y Gymraeg yn brif iaith eu gweinyddiad.
Un o brif ymrwymiadau Plaid Cymru wrth fynd yn rhan o lywodraeth glymblaid oedd i symud tuag at ddeddfwriaeth i gryfhau hawliau siaradwyr Cymraeg, ac i roi i’r Gymraeg statws swyddogol lawn, a’i gwneud yn gyfangwbl gyfartal â’r iaith Saesneg. Fe wyddem o’r cychwyn na fyddai hyn yn hawdd, o gofio arafwch y Blaid Lafur yn y maes hwn ers blynyddoedd bellach, ond ni fyddwn yn gwyro ar hyn, gan sicrhau deddfu a fydd nid yn unig yn ymrwymo’r sector gyhoeddus ond hefyd cyrff preifat sy’n rhoi gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.
Mae maes addysg yng Nghymru yn mynd trwy gyfnod o newidiadau pell-gyrhaeddol ar hyn o bryd, o’r cynradd i’r uwchradd, ac i addysg bellach ac addysg uwch, a rhaid cymryd y cyfle hwn i sicrhau fod dysgu’r Gymraeg, ac yn enwedig dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, yn cael ei gryfhau yn sylweddol drwy’r gyfundrefn gyfan, o’r bôn i’r brig. Rhaid gofalu fod pob Awdurdod Lleol yn darparu addysg Gymraeg digonol i gwrdd â’r galw gan rieni, ac i’r pwrpas hwn yn gwneud arolwg cyson o’r galw hwnnw. Yn dilyn Adroddiad Webb, bydd ad-drefnu sylweddol ar golegau addysg bellach, ac yn y sector hwn mae’r gwaith mwyaf i’w wneud i wella addysgu ac hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r sector Addysg Uwch eisoes wedi gweld newidiadau dirfawr, gyda’r Prifysgolion bellach i bob pwrpas yn sefydliadau annibynnol, a’r unig ffordd i sicrhau cynnydd yn y maes yw trwy sefydlu Coleg Cymraeg Ffederal i roi ffocws a chyfeiriad i’r gwaith o ddatblygu cyrsiau gradd trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd Plaid Cymru yn cadw at ei haddewid i berswadio’r sefydliadau i gydweithio i’r perwyl hwn, gan fod y datblygiadu tameidiog presennol yn gwbl annigonol, a hynny mewn maes a ddylai fod yn arwain unrhyw genedl a gronyn o hunan-barch.
NEGES BLWYDDYN NEWYDD, CALAN 2008
Ar drothwy 2008, fy ngobaith yw y bydd cariad ac nid casineb yn rheoli ein bywydau yn ystod y flwyddyn sy'n dod. Yn anffodus, mae'r arwyddion yn wael, a miliynnau o bobl ar draws y byd yn gorfod byw mewn tlodi a newyn neu ynghanol rhyfela di-bwrpas a di-derfyn. Wrth warchod ein gwinllan arbennig ni, na foed inni fyth golli golwg ar y byd mawr y tu allan, ac wrth ymladd am gyfiawnder i Gymru a'i phobl, ac i'r iaith Gymraeg, na foed inni swcro casineb tuag at genhedloedd a diwylliannau eraill. Gwarchod a datblygu trwy godi pontydd ac nid trwy godi waliau yw ein braint, ac edrychaf ymlaen i gydweithio gyda phob un ohonoch wrth geisio gwneud hynny, ac wrth geisio gwneud Cymru yn lle gwell i fyw ynddo, yn ystod 2008.
COFIWN DDYDDIAD YR ETHOLIADAU LLEOL ELENI: MAI 1AF.
ERTHYGL DAFYDD IWAN YN "BARN":
YSGOLION GWYNEDD
Caniatewch imi ddechrau ar nodyn ychydig yn bersonol, a chymryd peth o’r bai am or-symleiddio natur gwleidyddiaeth y Gymru Gymraeg! Mae unrhyw ffwl sy’n sgwennu caneuon ar faterion gwleidyddol yn bownd o wneud hynny. Wyddoch chi’r math o beth dwi’n feddwl – mae marina yn ddrwg, ac unrhyw un sy’n cefnogi mwy o le i gadw cychod hwyliau yn frawd i’r diafol. Mae ysgol fach y wlad yn dda, ac unrhyw un sydd am ei chau yn frawd arall i’r diafol. Ac os ydach chi o blaid cychod hwylio ac am gau ysgol fach, yna mae hi ar ben, yn enwedig os oeddech yn nyddiau ieuenctid yn cael eich gweld fel gelyn marinas, llosgwr tai ha a gwarcheidwad ysgolion bach. Cyn y ddadl ar Hafan Pwllheli, daeth Angharad Tomos i siambr Cyngor Gwynedd a dosbarthu copiau o gartwn a wnes i ar gyfer fy llyfr cyntaf o ganeuon yn rhagweld Cymru’r dyfodol yn wersyll gwyliau, yn garafanau a chychod hwylio am a welech chi, a thu allan i’r siambr yn ystod y ddadl ar ysgolion eleni roedd plant bach yn cario lluniau ohonof ym mhrotest Ysgol Bryncroes 1971, dan y pennawd “Wyt ti’n cofio?”. Cofio’n iawn, a difaru dim!
Ond dydi bywyd yn anffodus ddim mor syml â hynny. Gydag ysgolion bach, er enghraifft, tybed nad yden ni wedi clodfori eu rhinweddau gymaint nes anwybyddu eu ffaeleddau? Mae ganddyn nhw eu rhinweddau, yn sicr ddigon, a does neb am eu dilorni. Ond holwch dan yr wyneb, ac fe glywch am deuluoedd sydd wedi mynd â’u plant o ysgol fach am nad oedden nhw yn medru chwarae gyda chyfoedion, neu am nad oedd rhai math o chwaraeon yn bosib, ac fe glywch hefyd am blant a ddioddefodd am flynyddoedd am eu bod yn gaeth i un athro nad oedd o’r safon orau. Mae’r ddadl gymunedol yn un gref wrth gwrs, ond gwae ni os ydym yn amddifadu ein plant o brofiadau hanfodol yng nghyfnod mwyaf ffurfiannol eu bywyd oherwydd ideoleg gymunedol bedantig sy’n mynnu mai “cymuned farw yw cymuned heb ysgol”. Fel mae’n digwydd, mae’r pentre agosaf ata i yn bentre heb ysgol, ond gall Caeathro ddangos y ffordd i sawl cymuned gyda chapel sydd wedi’i adnewyddu fel canolfan gymunedol a chapel, tafarn, siop a garej lewyrchus, maes chwarae ardderchog ac ysgol Sul fywiog, a digon o weithgareddau cymdeithasol. Gwae ni rhag sarhau pentrefi fel hyn drwy greu “egwyddorion” sy’n digwydd siwtio’n dadleuon ar y pryd.
Ar y llaw arall, mae’r cysylltiad rhwng ysgol gynradd a’i chymuned yn hanfodol bwysig, ac yn greiddiol i strategaeth bresennol Cyngor Gwynedd. (Go brin fod unrhyw strategaeth cyngor erioed wedi ei chreu lle’r oedd y prif awdur wedi trwytho’i hun mor drylwyr ym mhapur ardderchog Ffred Ffransis ar rôl gymunedol ysgolion). Y cwestiwn sylfaenol yw sut mae rhywun yn diffinio natur a maint cymuned wledig sy’n gynaliadwy i’r dyfodol? Fedrwn ni ddim cynnal pob gwasanaeth ym mhob pentre, ac felly mae elfen o grynhoi a chanoli yn anochel. Nid un ateb unffurf sydd, ac nid cau pob ysgol o dan rhyw nifer yw’r ateb chwaith. Beth mae Cyngor Gwynedd am ei wneud yw edrych ar yr holl ffactorau addysgol, cymdeithasol, demograffig, ieithyddol, a daearyddol a llunio strategaeth sy’n gyfuniad o ysgolion ffederal ac ysgolion ardal, gan adael rhai ysgolion mwy fel y maent. Canlyniad anochel hyn yw cau rhai safleoedd, a hynny, yn naturiol ddigon, sy’n dal y penawdau, yn achosi poen a phrotest, ac yn anffodus yn cracio ambell i wy.
Ychydig o ffeithiau am sefyllfa bresennol Gwynedd:
- 106 o ysgolion cynradd, yn amrywio o 4 i 335 o ran nifer plant
- 1539 o blant yn y 5 ysgol fwyaf gyda 54 athro a 5 pennaeth (59 athro)
- 1491 o blant yn y 43 ysgol leiaf gyda 49 athro a 43 pennaeth (92 athro)
- cost y pen i ddarparu addysg yn yr ysgolion lleiaf un yn £10,444
- cost y pen i ddarparu addysg yn yr ysgolion mwyaf yn £2,125
- nifer plant oed cynradd: 10,080 (1996), 9,161 (2005), 8,414 (2014, tebygol)
Mae tuedd ynom ni Gymry “diwylliedig” y dosbarth canol i siarad fel pe bai arian a chyllid yn amherthnasol i unrhywbeth sy’n ymwneud ag addysg a chrefydd a’r iaith, ond yn anffodus nid felly y mae. Am ein bod wedi gwrthod yr ateb amlwg i broblem cynnal miloedd o gapeli anaddas a gwag, sef uno’r enwadau a chydweithio trwy grynhoi adnoddau, mae ein capeli yn prysur ddiflannu o un i un yn wythnosol. Os parhawn i wario fel y gwnawn ar hyn o bryd ar gynnal ysgolion hanner gwag, mi fydd dros hanner ysgolion Gwynedd yn gorfod cau dros y deng mlynedd nesaf o ddiffyg cyllid. Mae cynnal y “llefydd gweigion” sylweddol sydd mewn 32 o ysgolion Gwynedd wedi costio £850,000 yn 2007, a gall hyn godi i £1.2miliwn erbyn 2016 oherwydd y lleihad yn niferoedd y plant. Mae’r pwysau cynyddol ar adnoddau yn golygu toriad yng nghyllid pob ysgol, ond mae’r effaith yn waeth ar yr ysgolion mwy gan fod polisi “rhwyd ddiogelwch” yn gwarchod pob ysgol dan 37 disgybl.
Ond o weithredu’r strategaeth newydd a chreu rhwydwaith o ysgolion a all wasanaethu eu cymunedau ar draws y sir am flynyddoedd i ddod, a hynny heb gwmwl o ansicrwydd uwch eu pennau, gall Cyngor Gwynedd arbed £1.44 miliwn y flwyddyn. O’r arian hwnnw, bydd £935,000 y flwyddyn ar gael i sicrhau Penaethiaid Arweiniol di-gyswllt i bob ysgol fydd ddim yn newid, i bob ysgol ardal a ffederal, i arwain ar faterion strategol, cwricwlaidd, rheolaethol, ieithyddol a chymunedol. Bydd adnoddau hefyd ar gael i sicrhau peth amser di-gyswllt i bob Pennaeth Safle, ond bydd prif ffocws pob athro safle ar addysgu’r plant, gan eu rhyddhau o lawer o’r baich gweinyddol sy’n eu llethu ar hyn o bryd. Dros gyfnod o 6 mlynedd, bydd buddsoddiad o tua £30 miliwn gan y Cyngor a’i bartneriaid ar godi ysgolion newydd a gwella’r adeiladau sydd mewn cyflwr gwael ar hyn o bryd.
Uwchlaw pob dim arall, ein nod ni yng Nghyngor Gwynedd yw cynnal economi a chymunedau ar draws y sir gyfan, ac yn hynny o beth yr ydym yn gorfod ymladd yn barhaus yn erbyn polisiau a gweision sifil sy’n credu mai canoli popeth yw’r unig ateb. Mae’r frwydr allweddol, er enghraifft, i gadw at ein strategaeth tai fforddiadwy a pholisi pentrefi gwledig a datganoli stadau diwydiannol yn ein Cynllun Unedol, yn nannedd argymhellion yr Arolygaeth Gynllunio yn holl bwysig. Mae ein record fel sir o greu rhwydwaith o swyddogion Adfywio Bro, cynlluniau fel Cist Gwynedd i gefnogi prosiectau cymunedol, Pecyn Busnes i gefnogi busnesau bach, canolbwyntio arian Amcan Un ar brosiectau y tu allan i’r prif ganolfannau, Strategaeth Ardal y Llechen, Tai Fforddiadwy i ateb y galw lleol yn unig – mae’r cyfan hyn a mwy yn tanlinellu mai ein prif flaenoriaeth yw gwasgaru twf mor gytbwys â phosib drwy’r sir gyfan. Credaf fod y strategaeth ail-drefnu ysgolion cynradd yn rhan hanfodol o’r weledigaeth honno.
Dafydd Iwan,
Uwch Arweinydd Datblygu Cyngor Gwynedd.
ARAITH DAFYDD IWAN YNG NGHYNHADLEDD PLAID CYMRU, MEDI 2007:
(Gweler y wefan Saesneg am y rhan Saesneg):
ARAITH Y LLYWYDD, LLANDUDNO, MEDI 2007
Gyfeillion, dwi am eich gwahodd i wrando ar lais arbennig iawn; llais gwr a oedd yn barod i sefyll dros yr hyn a gredai, beth bynnag y gost iddo ef ei hun. Llais gwr a gredai yn angerddol mewn rhyddid, a gwr y ceisiodd ei wlad ei hun ei ddistewi a’i rwystro rhag ymgyrchu dros ryddid, a chyfiawnder, a heddwch. Recordiwyd y llais unigryw hwn union hanner can mlynedd yn ôl i’r mis nesaf, pan drefnwyd iddo annerch torf o 5,000 yn Eisteddfod Glowyr y De dros wifrau’r teleffon am fod yr Unol Daleithiau wedi mynd a’i basport i’w rwystro rhag gadael y wlad.
Roedd Paul Robeson yn un o’r bobol amlycaf i ddioddef oherwydd ysbryd afiach McCarthyism yn America, ond yr oedd y cawr hwn o ddynoliaeth yn awyddus iawn i annerch, ac i ganu, i’w gymrodyr ym Mhorthcawl ar Hydref y 5ed, 1957. Gwrandewch arno heddiw, hanner can mlynedd yn ddiweddarach:
“My warmest greetings to the people of my beloved Wales, and a special hello to the miners of South Wales, at this great Festival. It is a great privilege to be participating in this historic festival. All the best to you as we strive toward a world where we all can live abundant, peaceful and dignified lives”.
Credaf ei bod yn briodol iawn inni atgoffa’n hunain o eiriau Paul Robeson yn y Gynhadledd hon heddiw, oherwydd iddo fe, doedd yna ddim gwahaniaeth rhwng rhyddid y gweithwyr, rhyddid yr unigolyn a rhyddid cenedlaethol. Yr un egwyddor fawr oedd yn sail i’r cyfan – yr hawl i bobol fyw yn rhydd, boed fel aelodau o genedl fechan, neu fel aelodau o’r ddynoliaeth gyfan, ac I weithio gyda’n gilydd I greu byd lle gall pawb fyw bywydau cyflawn, heddychlon ac urddasol.
A dyna yn union yw ein cred ninnau ym Mhlaid Cymru: ein prif dasg ni yw sicrhau rhyddid cenedlaethol i Gymru, fel rhan o deulu rhyngwladol cenhedloedd y byd. Sicrhau i Gymru senedd genedlaethol a fydd yn rhydd i benderfynu blaenoriaethau ein cenedl, ac ennill iddi statws cenedl annibynnol a fydd yn gallu chwarae ei rhan gyflawn ar lwyfan Prydain, Ewrop a’r byd.
Doedd yna ddim oll yn gul nac yn gyfyngedig yn agwedd Paul Robeson; roedd yn Americanwr du a berthynai i’r byd yn gyfan. Yn union fel y mae ein cenedlaetholdeb ni yn perthyn i’r byd yn gyfan. Does yna ddim posib cael rhyng-genedlaetholdeb iach heb genedlaetholdeb iach. Mae Plaid Cymru yn credu mewn annibyniaeth am ein bod yn dymuno chwarae ein rhan ar y llwyfan rhyngwladol, am ein bod yn dymuno gweld Cymru yn cydweithio gyda chenhedloedd eraill y byd, boed fawr neu fach, i greu byd o gyfiawnder a chyflawnder, byd o ryddid a heddwch.
Wrth wrando ar yr enaid mawr a feddai Paul Robeson yn llefaru wrthym heddiw, cyhoeddwn gerbron y byd nad oes lle i gulni yn ein cenedlaetholdeb ni, does dim lle i blwyfoldeb na chenfigen sectyddol yn ein cenedlaetholdeb ni. Yr ydym ni yn y blaid hon am ryddhau ein pobol o’r culni a wthiwyd arnom gan Brydeindod Imperialaidd, ac am agor ein meddyliau i ganfod ein rol fel rhan o deulu dynoliaeth led-led y ddaear.
A dyna pam na fynnwn ni fod yn rhan o’r hyn sy’n dal i ddigwydd yn Irac yn ein henw ni heddiw. Mae Bush a Brown erbyn hyn yn dechrau sylweddoli na fedran nhw gynnal eu sefyllfa yn Irac lawer yn hwy. Mae cost y rhyfel i America bellach yn agos i 3 biliwn doler yr wythnos, heb son am y wir gost, mewn bywydau trigolion Irac a milwyr America a Phrydain. Ac y mae’r gost o £3 miliwn y diwrnod sy’n llifo allan o goffrau Trysorlys Prydain yn bendant bellach yn achosi toriadau ar ein gwasanaethau cyhoeddus ni yma yng Nghymru.
Mae bod yn aelod o Awdurdod Lleol yng Nghymru heddiw yn waith diflas iawn ar adegau gan ein bod yn gorfod chwilio am arbedion sy’n dechrau troi yn doriadau mewn gwasanaethau i’r cyhoedd. Mae’n bwysig ein bod yn chwilio o hyd am arbedion . ac yn sicrhau fod arian cyhoeddus yn cael ei wario’n effeithiol, ond pan fydd cynghorwyr yn gorfod dewis pa wasanaethau cyhoeddus i’w torri nesa, mae yna rywbeth mawr o’i le. A’r cwestiwn yw, o ble y mae’r wasgfa ariannol yma’n deillio? Pam, ar adeg pryd y mae Llywodraeth Llundain yn brolio ein bod yn mwynhau cyfnod o lewyrch economaidd, pam yden ni yn gorfod torri ar wasanaethau cyhoeddus? Fedrith neb wadu bellach nad yw dal i arllwys arian i bydew gwaedlyd Irac ac Afghanistan yn cael effaith ar ein gallu i wario ar yr anghennus yn ein cymdeithas a’n cymunedau ni yma yng Nghymru.
Ond onid ydym ni yn rhan o’r llywodraeth bellach? Wrth gwrs ein bod ni, a diolch i’r drefn am hynny, oherwydd nawr y mae yna obaith y cawn ni edrych yn fanwl ar y modd y mae ein Cynulliad cenedlaethol yn cael ei ariannu. Mae’n rhaid inni symud o hualau caeth fformiwla Barnett, a mynnu ein bod yn cael ein hariannu yn ol gwir anghenion ein pobol. Ac am yr un rheswm, y mae’n hanfodol ein bod yn symud mor fuan a phosib i sefyllfa lle bydd gennym senedd yng NGhaerdydd a fydd yn rhydd i wneud ei phenderfyniadau ei hunan, ac i benderfynu ar ddeddfwriaeth heb orfod mynd a chap yn ein llaw i Aelodau Senedd San Steffan.
Un o’r pethau mwyaf cyffrous ynglyn a’r datblygiadau yn dilyn yr etholiad yn gynharach eleni oedd fod cymaint o dir cyffredin rhwng y pleidiau i gyd. O gael sefyllfa lle’r oedd gwleidyddiaeth Cymru yn cael y llaw uchaf, lle’r oedd anghenion pobol Cymru yn cael y flaenoriaeth, a lle’r oedd buddiannau Cymru gyfan ar y bwrdd, fe welsom am y tro cyntaf y pleidiau i gyd yn gallu cytuno ar nifer o hanfodion ym myd addysg a iechyd, yr economi a’r iaith Gymraeg, tai a thrafnidiaeth. A pheidiwn a bod yn rhy wylaidd i ddatgan mai i Blaid Cymru, i bawb a bleidleisiodd i’r Blaid, ac i Ieuan Wyn Jones am ei arweiniad cadarn, y mae’r diolch am hyn. Heb Blaid Cymru, fyddai’r wleidyddiaeth Gymreig newydd heb weld golau ddydd. Heb Blaid Cymru, mi fyddem yn dal i gecru ymhlith ein gilydd am y manion. Ond diolch i Blaid Cymru, gallwn ddechrau gweld Senedd genedlaethol yn ymffurfio yng Nghaerdydd a fydd yn gallu adeiladu cenedl newydd gyda’i blaenoriaethau ei hun, ei gwerthoedd ei hun, gydag uchelgais iach i greu cenedl ffyniannus a blaengar yma ar ddaear Cymru.
Gadewch inni fynd yn ol am funud i gyfnod yr etholiad eleni. Yr oeddem wedi cyrraedd pen-llanw llwyddiant etholiadol yn 1999, yn dilyn y fuddugoliaeth hanesyddol yn refferendwm 1997, ond wedi hynny, yr oedd etholiadau’r Cynulliad yn 2003 a San Steffan yn 2006 wedi bod yn siomedig. Dim byd yn agos i’r trychinebau y tueddai’r wasg a’r cyfryngau eu portreadu, ond doedden nhw ddim yn dangos Plaid Cymru fel grym oedd ar gynnydd trwy Gymru gyfan.
Roedd etholiad 2007 ar y gorwel, ac fe wyddem y byddai hon yn brawf tyngedfennol ar ein plaid. Roedd y wasg yn hogi eu cyllyll ar gyfer y lladdfa, a doedd dim dianc rhag yr her. Ond yr oedd ysbryd newydd ar gerdded, y ddelwedd newydd wedi ei sefydlu, roedd y Blaid wedi siarad gyda’r bobol, a thri chomisiwn wedi adrodd, ar iechyd, ar ddatblygu cynaladwy, ac yr iaith Gymraeg. Roedd yna ganfasio 5 stryd yr wythnos mewn sawl cwr o Gymru, a threfn na welwyd ei fath ar yr ymgyrchu.
Oedd, roedd yn rhaid inni ddangos cynnydd ym mis Mai eleni, ac fe gafwyd ymgyrch ardderchog, o dan gyfarwyddyd ysbrydoledig Adam Price a’r Uned Ymgyrchu dan arweiniad Geraint Day. Roedd Alun Shurmer yn trefnu’r cysylltiadau cyfryngol, Dafydd Wigley yn carlamu o gwmpas y Gogledd, a gweddill Cymru o ran hynny fel ebol blwydd yn ysbrydoli pawb, a Ieuan a llaw sicr ar yr awennau. A thu cefn i’r cyfan, gwaith di-flino Dafydd Trystan a’i staff yn Nhy Gwynfor. Roedd hi’n ymgyrch hyderus, drefnus a phroffesiynol, ac ar Fai’r 4ydd, cafwyd y canlyniad yr oeddem yn ei haeddu, ac o fewn dim, yr oedd dyfodol llywodraeth ein cenedl yn nwylo Plaid Cymru.
A’r hyn a ddigwyddodd yn yr wythnosau dilynol oedd yr uchafbwynt. Dan arweiniad cadarn Ieuan a’i dim o negodwyr, cafwyd yn gyntaf ddogfen ar y cyd gyda’r Rhyddfrydwyr Democrataidd a’r Ceidwadwyr a fyddai’n sail i lywodraeth Cymru, ac yna wrth weld hynny, dyma Llafur yn cytuno i symud i’n cyfarfod ar nifer o feysydd allweddol, a dyma greu dogfen arall fel sylfaen i lywodraeth Cymru. Dan ddylanwad Plaid Cymru, mi gytunodd y pedair plaid ar nifer o hanfodion sylfaenol. Dan ddylanwad Plaid Cymru, gosodwyd sylfaen ar gyfer hunan-lywodraeth i Gymru. Roedd yna ddadl gref o blaid dogfen yr enfys, ac roedd yna ddadl gref o blaid “Cymru’n Un”, ac yn y diwedd honno a orfu. Ond imi, gogoniant y trafodaethau hyn oedd fod pedair o brif bleidiau Cymru wedi dangos eu bod yn barod i greu gwleidyddiaeth Gymreig o’r newydd. A dyna ddechrau go iawn ar sylweddoli ein breuddwyd ni ym Mhlaid Cymru.
Yr ydym ni yn bod i wneud gwahaniaeth. Yr ydym ni yn bod fel plaid i newid Cymru er gwell, er mwyn ei phobol, ac er mwyn ei dyfodol. Ac i wneud hynny, rhaid inni newid mwy na ni ein hunain, rhaid inni newid Cymru gyfan, rhaid inni ennill calon a meddyliau ein cyd-Gymry, - a rhaid inni newid y pleidiau a fu yn bleidiau Prydeinig, Llundain-ganolog hyd yn hyn. O’u newid, ni fydd buddugoliaeth i ni fel plaid mor rhwydd yn y dyfodol; ond y mae hynny yn bris gwerth ei dalu os ydym am weld creu’r Gymru newydd. Ond peidiwch a dychryn gyfeillion, nid darogan diwedd y Blaid hon ydw i, ond dathlu genedigaeth y wleidyddiaeth Gymreig newydd, y wleidyddiaeth yr oedd yn rhaid ei geni cyn y gallwn symud tuag at hunan-lywodraeth i Gymru. Yr hyn a welsom ym mis Mai eleni, oedd Plaid Cymru yn deffro’r Cymreictod oedd ynghudd dan orchudd Prydeindod y pleidiau eraill. Mae’r frwydr yn parhau, ac y mae yna ffordd bell i fynd eto, ond gyfeillion, yr ydym bellach ar y ffordd i’r Gymru Rydd!
A gwaith Plaid Cymru o hyd fydd arwain, a rhaid gofalu ein bod yn gwneud hynny bob amser yn yr ysbryd cywir. Does neb yn fwy teyrngar na mi i Blaid Cymru, ond gochelwn rhag i sectyddiaeth ein dallu i bosibiliadau cydweithio gyda phleidiau eraill. Dydw i ddim mor naïf a chredu fod y Blaid Lafur wedi newid dros nos; mae smotiau’r llewpard mor llachar ag erioed, ac y mae creithiau ei ewinedd ar ein croen. Bydd ein gwrthwynebiad i ryfel Irac, a Trident, ac i gardiau adnabod ac i breifateiddio gwasanaethau cyhoeddus yr un mor ffyrnig a di-gyfaddawd ag erioed, a pheidied neb ag amau hynny am funud.
Ond yr ydym ni bob amser yn barod i gydweithio gydag unrhyw un er lles Cymru, ac er mwyn cyflymu’r broses o sefydlu senedd go iawn i Gymru. Nid mater o ymrwymiad i blaid arall mo hyn, ond parodrwydd i weithio gyda phwy bynnag a fydd yn gymorth i greu Cymru newydd, ffyniannus, ar sail cydraddoldeb a thegwch cymdeithasol.
Mae hon wedi bod yn flwyddyn fawr i Blaid Cymru, a gallaf weld y wen na phyla amser ar wyneb DJWilliams yn serennu arnon ni, a gwen gynnil ar wyneb Gwynfor o weld nad oedd ei lafur mawr yn ofer. Byddai’r ddau, a’r llu cwmwl tystion eraill a fu’n paratoi’r ffordd ac yn braenaru’r tir dros y blynyddoedd, yn falch o weld lle’r yden ni heddiw, ac yn falch o waith Elin a Rhodri a Jocelyn, ac yn arbennig yn falch o arweiniad Ieuan.
Ond Gwynfor fyddai’r cyntaf i’n rhybuddio i beidio llaesu dwylo, ac i ymroi iddi yn ein canghennau, yn ein cymunedau led-led Cymru, i baratoi ar gyfer yr etholiadau lleol y flwyddyn nesa, ac i gredu o ddifri y gallwn ni gipio grym mewn sawl Cyngor ym mis Mai 2008. Meddyliwch am y peth, fedar neb ddweud wrthym bellach na allwn ennill grym yng Nghymru. All neb ddweud wrthym fyth eto “Ond chaiff Plaid Cymru fyth gyfle i ffurfio llywodraeth, dim ond bod yn wrthblaid”. Mae’r sgerbwd hwnnw wedi ei gladdu unwaith ac am byth, ac o hyn ymlaen, bydd pobol Cymru yn ein gweld fel plaid sy’n debygol iawn o fod yn arwain, neu yn rhan o lywodraeth ein gwlad. Ac mi fydd hynny’n wahaniaeth enfawr. O hyn ymlaen, mi fyddwn yn ymladd pob etholiad i ennill, ac i weithredu ar ein maniffesto.
Awn adref o Landudno i weithio, ac i sicrhau y bydd ein haelodaeth y flwyddyn nesaf yn fwy nag y bu ers blynyddoedd lawer, os nad erioed. Ni yw’r unig blaid sy’n cynyddu ei haelodaeth yng Nghymru, ac y mae’r un mor bwysig ein bod yn rhoi trefn ar ein canghennau hefyd ar gyfer y gaeaf, ac yn dechrau ar broses o ganfasio trwyadl ddechrau’r flwyddyn.
Fy mraint i fel Llywydd yw teithio’r wlad ac i’ch cyfarfod yn eich broydd ar hyd a lled Cymru, ac edrychaf ymlaen at wneud hynny eto o hyn i’r etholiadau lleol ym mis Mai. Ond does dim pwrpas i mi nac i neb arall wneud hynny os nad oes yna weithgarwch yn digwydd yn yr ardaloedd, a phobol yn barod i weithio ar ol inni ddychwelyd adref. Mae dyfodol Cymru yn ein dwylo ni, yr aelodau cyffredin; ni allwn ni , ac ni ddylen ni, adael y cyfan i’n haelodau etholedig, oherwydd mae ein gwleidyddiaeth ni, a’n cenhadaeth ni fel plaid, yn perthyn i’r holl bobol, ac nid i griw dethol yn unig.
Ein braint ni yw sicrhau dyfodol a pharhad ein gwlad a’n cenedl, ac awn oddi yma yn llawen i barhau gyda’r gwaith mawr hwnnw.
Er mwyn Cymru, diolch yn fawr ichi un ac oll.
------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
I mi, sy'n barod iawn i groesawu'r lywodraeth glymblaid gyda Llafur AR SAIL Y DDOGFEN BOLISI A GYTUNWYD RHYNGOM A'N GILYDD, yr hyn sy'n sefyll allan uwchlaw popeth arall yn dilyn trafodaethau'r ddeufis diwethaf yw fod y 4 plaid wedi darganfod mesur helaeth o gytundeb ar faterion pwysig fel iechyd, yr iaith Gymraeg, tai ac addysg. Mae'r mesur hwn o gytundeb yn hanfodol wrth inni osod y seiliau ar gyfer y Gymru rydd. Cyn y gallwn sefydlu senedd go iawn, rhaid cael pleidiau sy'n gytun ar brif faterion gwleidyddiaeth Cymru. A diolch i arweiniad Plaid Cymru, rydym yn gweld hyn yn digwydd o flaen ein llygaid. Mae ffordd bell i fynd, wrth reswm, ond gallwn o'r diwedd gredu fod y Gymru newydd o fewn cyrraedd.
CROESO I'R 15 AELOD NEWYDD O GYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU A ETHOLWYD YN ENW PLAID CYMRU:
Aelodau newydd sbon (ar wahan i Gareth sy'n dychwelyd i'w briod le!):
NERYS EVANS
BETHAN JENKINS
CHRIS FRANKS
GARETH JONES
MOHAMMAD ASHGAR
Aelodau a ail-etholwyd:
IEUAN WYN JONES
HELEN MARY JONES
RHODRI GLYN THOMAS
ALUN FFRED JONES
DAI LLOYD
ELIN JONES
DAFYDD ELIS THOMAS
JANET RYDER
JOCELYN DAVIES
LEANNE WOOD
Diolch o galon hefyd i'r 45 o ymgeisyddion eraill dros Blaid Cymru a weithiodd mor lew yn ystod yr ymgyrch. Roedd eu cyfraniad hwythau yn allweddol i'r llwyddiant cyfan. Credaf i'r etholiad hwn fod yn drobwynt yn hanes Cymru, ac na welwn eto fyth law farw Llafur ar wleidyddiaeth Cymru.
GALLWN YN AWR DDECHRAU O DDIFRI AR Y GWAITH CALED A CHYFFROUS O ADEILADU'R GYMRU NEWYDD GYDA'N GILYDD
Dalier Sylw! : Lluniau o'r ymgyrch etholiad, a dyddiadur y flwyddyn- gweler dalen "Newyddion"
-----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
YMA O HYD
Mae sawl un ohonoch wedi gofyn am eiriau "Yma o hyd", felly dyma nhw:
YMA O HYD
Dwyt ti'm yn cofio Macsen, does neb yn ei nabod o
Mae mil a chwe chant o flynyddoedd yn amser rhy hir i'r co'
Aeth Magnus Maximus o Gymru yn y flwyddyn tri chant wyth tri
A'n gadael yn genedl gyfan, a heddiw - wele ni!
Cytgan
Ryn ni yma o hyd! Ryn ni yma o hyd!
Er gwaetha pawb a phopeth (x3)
Ryn ni yma o hyd!
Chwythed y gwynt o'r dwyrain, rhued y storm o'r môr
Hollted y mellt yr wybren a gwaedded y daran encôr
Llifed dagrau'r gwangalon a llyfed y taeog y llawr
Er dued y fagddu o'n cwmpas, ry'n ni'n barod am doriad y wawr!
Cofiwn i Facsen Wledig adael ein gwlad yn un darn
A bloeddiwn gerbron y gwledydd 'Byddwn yma hyd Ddydd y Farn!'
Er gwaetha pob Dic Siôn Dafydd, er gwaetha 'rhen Tony a'i griw
Byddwn yma hyd ddiwedd amser, a bydd yr iaith Gymraeg yn fyw!
Geiriau Dafydd Iwan, hawlfraint Cyhoeddiadau Sain
--------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Rhifau a chyfeiriadau Dafydd Iwan:
01286.676004 - cartre
07984202922 - symudol
07787875213 - ffon car
dafyddiwan@cymru1.net
"CARROG", RHOS-BACH, CAEATHRO, CAERNARFON, GWYNEDD, LL55 2TF
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
DYFYNIADAU O AREITHIAU DAFYDD IWAN:
Chwe chan mlynedd yn ol, roedd Owain Glyndwr wedi ennill nifer o frwydrau allweddol, wedi ennill parch a chefnogaeth nifer o unigolion dylanwadol yng Nghymru a thramor, wedi ffurfio cytundeb hanesyddol gyda Ffrainc, ac wedi cynnull ynghyd ei Senedd gyntaf. Roedd yr ymgyrch am ryddid Cymru wedi dechrau o ddifri. Chwe chan mlynedd yn ddiweddarach, ryden ni'n dal i ddisgwyl am Senedd. Mae gyda ni Gynulliad, ond diolch i'r Blaid Lafur mae'n Gynulliad heb bwerau deddfu sylfaenol, ac heb bwerau trethu o gwbwl. Sefydlodd y Blaid Lafur Gomisiwn Richard; gwariwyd miliwn o bunnau, ymgynghorwyd yn eang, a chafwyd Adroddiad unfrydol oedd yn gosod allan yn glir ac yn rhesymegol pam fod yn rhaid cael pwerau deddfu cynradd, 80 o aelodau wedi eu hethol drwy STV, ac yn ddelfrydol, pwerau trethu yn ogystal.
Nid Comisiwn Plaid Cymru oedd hwn, fe wyddem ni na fyddai fyth yn mynd yn ddigon pell i gynnig hunan-lywodraeth lawn i Gymru, ond yr oedd yn gyfle gwych i'r Blaid Lafur symud y broses ymlaen a rhoi pwerau i'r Cynulliad i lywodraethu Cymru'n fwy effeithlon. Ond beth wnaeth Llafur? Yr hyn maen nhw'n gneud bob tro, sef dim o bwys. Eistedd ar eu dwylo a derbyn y ddogfen fwya cymysglyd a di-gyfeiriad sy'n son am bopeth ond yn dweud dim, yn claddu eglurder disglair Adroddiad Richard mewn cybolfa aneglur. Unwaith yn rhagor, mae Llafur wedi bradychu pobol Cymru, a'u Haelodau Seneddol di-asgwrn-cefn wedi rhoi eu jobs a'u dyfodol eu hunain o flaen lles Cymru. Unwaith yn rhagor, rhaid i Blaid Cymru arwain yr ymgyrch dros sefydlu Senedd go iawn a fydd yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywydau ein pobol a'n cymunedau. Mae'r frwydr yn parhau!
Ac i sicrhau llwyddiant, rhaid parhau gyda'r gwaith o adeiladu rhwydwaith effeithiol o ganghennau led-led Cymru. Ac fel
y dywedais wrth gael fy ethol i'r swydd hon, rwyf am weld pob rhan o'r blaid hon yn cael yr un amlygrwydd: grwp ein haelodau yn y Cynulliad Cenedlaethol, grwp ein haelodau yn San Steffan, ein haelod ar Senedd Ewrop, ein cynghorwyr ar y Cynghorau Unedol, Tref a Chymuned, a'n haelodau cyffredin mewn canghennau ar hyd a lled Cymru. Mae'n bwysig fod yr holl haenau yma yn gweithio gyda'i gilydd, a phawb yn teimlo eu bod yn rhan o'r gwaith mawr o wella ansawdd bywyd pobol Cymru. Wedi'r cyfan, am hynny yden ni'n son. Does dim pwrpas i fodolaeth unrhyw blaid wleidyddol os nad yden ni'n gallu gwneud gwahaniaeth i fywydau-bob-dydd ein pobol.
Beth bynnag yw ein dyheadau am ddyfodol Cymru a'r byd, pa egwyddorion bynnag sy'n gyrru ein polisiau, does dim ystyr iddyn nhw os nad yden ni'n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i amgylchiadau byw pobol Cymru. Beth sy'n cyfrif yw hawl pobol i gartref addas am bris neu ar rent y gallan nhw fforddio,hawl pobol i waith addas am gyflog teg, hawl pobol i bensiwn teg wedi oes o waith, hawl pobol i amgylchedd glan, iach a diogel, i wasanaeth iechyd a gofal yn ol eu hangen ac nid yn ol eu gallu i dalu, a system addysg sy'n paratoi ein plant ar gyfer bywyd ac yn rhoi iddyn nhw'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i gael gwaith. Yr holl bethau hyn yw craidd ein bodolaeth fel plaid; - gwella ansawdd bywyd pobol Cymru, dyna yw pwrpas bodolaeth Plaid Cymru..........................................
Ydw, dwi'n diolch i'r drefn fod fy nhraed ar y ddaear ac nad wyf yn gorfod byw mewn unrhyw swigen artiffisial, boed honno yn San Steffan neu ym Mae Caerdydd. Ond dyw cadw'n traed ar y ddaear a byw yn y byd real ddim yn golygu na allwn gadw'r freuddwyd yn fyw. Dyw cadw'n traed ar y ddaear ddim yn golygu na allwn gadw'r ddelfryd yn glir. Ac wrth inni ymgyrchu i ennill Senedd i Gymru fydd a'r pwerau i wneud gwahaniaeth i fywydau ein pobol, mae'n bwysig ein bod yn cadw'r freuddwyd yn fyw am y Gymru a all yn y dyfodol, gyda chefnogaeth ei dinasyddion, gymryd ei lle ymhlith cenhedloedd Ewrop a'r byd fel gwlad yn ei hawl ei hun, gyda'i Senedd ei hun, yn siarad â'i llais ei hun, yn siarad yn huawdl dros ryddid, yn siarad yn huawdl dros heddwch. Dylai aelodau Plaid Cymru fedru gweiddi ar dop eu llais:
· Caniatewch i ni ein delfryd!
· Caniatewch i ni ein breuddwyd!
· Caniatewch i'n cenedl yr hawl i fyw!
Cysylltwch:
Ffon: 01286.676004: Telephone
Symudol: 07984202922: Mobile
e-bost: dafyddiwan@cymru1.net: e-mail
NEGES I GENEDLAETHOLWYR GAN DAFYDD IWAN:
"DIOLCH O GALON ICHI AM EICH CROESO AC AM EICH CEFNOGAETH, A HYNNY YM MHOB CWR O'R WLAD, A DIOLCH AM EICH FFYDD YNOF. EDRYCHAF YMLAEN AT WEITHIO GYDA PHAWB OHONOCH I GODI'R BLAID AR EI THRAED, AC I ENNILL ANNIBYNIAETH I GYMRU.
RYDYM YN CYCHWYN GYDA'N GILYDD AR GYFNOD NEWYDD YN YR YMGYRCH FAWR DROS GYMRU, I GAEL LLU O AELODAU NEWYDD, I GAEL BYWYD NEWYDD I'N CANGHENNAU, AC I GYFUNO GWAITH EIN HAELODAU ETHOLEDIG GYDAG YMGYRCHU LLEOL YM MHOB CWR O GYMRU.
RHAGOM I RYDDID!"
DAFYDD IWAN:
- I ARWAIN
- I YSBRYDOLI
- I UNO
[Mwy...;]
|