|

DAFYDD YN YSGWYD LLAW DYLAN REES, DARPAR YMGEISYDD SENEDDOL PLAID CYMRU AR YNYS MON, WEDI CYRRAEDD CAE SIOE MON YN DILYN TAITH DYLAN O GWMPAS Y SWYDDFEYDD POST SYDD MEWN PERYGL O GAU AR YR YNYS.
WRTH YSGWYD LLAW, ROEDD DAFYDD A DYLAN HEFYD YN CYMRYD RHAN YN Y GADWYN SYMBOLAIDD A GYCHWYNNWYD GAN Y DALAI LAMA I ATGOFFA'R BYD MAI TRWY GYMOD A THRAFOD Y MAE DATRUS SEFYLLFA FEL UN TIBET, NID TRWY ORMES A SATHRU AR HAWLIAU DYNOL.
----------- ------------------------------------------------------------------------------------------ DAFYDD GYDA PHOBL IFANC O BELARWS SY'N TREULIO PYTHEFNOS YNG NGHYMRU
MAE POB UN O'R BOBL HYN WEDI DIODDE AFIECHYD O GANLYNIAD I FFRWYDRAD CHERNOBYL
HEFYD YN Y LLUN MAE UN O'R TREFNWYR, OLWEN DAVIES, IS-GADEIRYDD CND CYMRU

TIM YMGYRCH DAFYDD AM LYWYDDIAETH Y BLAID YN CYFARFOD YN NHREGANNA.
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
LLYWYDD AC IS-LYWYDD Y BLAID YN GALW AR ARWEINWYR RHYNGWLADOL AC ATHLETWYR I FYNEGI EU GWRTHWYNEBIAD I DRINIAETH TSEINA O TIBET, A'I RECORD AR HAWLIAU DYNOL.
Dywedodd Dafydd Iwan, Llywydd Plaid Cymru:
"Nid ydym am i neb amharu ar ddigwyddiad mor arbennig a'r Chwaraeon Olympaidd, ond ar y llaw arall, ni allwn anwybyddu'r modd y mae Tseina yn sathru ar hawliau dynol ei phobl ei hun a gwledydd fel Tibet.
Tra bod llygaid y byd ar Tseina yn ystod y Chwaraeon, mae'n gyfle i'r rhai sy'n cymryd rhan i fynegi eu teimladau ar y math hwn o ormes ar hawliau unigolion a gwlad fel Tibet"

Dafydd Iwan a Jill Evans gyda baner Tibet yn ystod Cynhadledd Wanwyn y Blaid (yng Nghasnewydd)

Dafydd gyda Penri Roberts a Bryn Davies, wedi cerdded o Lanuwchllyn i Domen-y-Mur, Trawsfynydd
i godi arian at gyflenwi deunydd addysgol i ysgolion yn Swaziland, yn ne Affrica. Mehefin, 2008.
CYFARFODYDD, CYNGHERDDAU AC ANERCHIADAU 2008:
MAI
Mai 26: DI yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd yn canu i ddathlu Camp Lawn tim rygbi Cymru
MEHEFIN
Mehefin 7: Maes, Maen Gwynedd, Llanrhaeadr ym Mochnant
Mehefin 15: Porthaethwy
Mehefin 20: Beddllwynog, Merthyr Tudful
Mehefin 21: Llansawel, Sir Gaerfyrddin
Mehefin 29: Nefyn a Tyddyn Sion
GORFFENNAF
Gorffennaf 3: Annerch Cynhadledd "Cynllunio Cadarnhaol i Gymru", Caerdydd, ar gynllunio gwledig
Gorffennaf 3: Noson yng Nghwm Cynon i ddathlu canlyniadau'r Cyngor Sir.
Gorffennaf 4: Gwyl Bro Dinefwr, Cil-y-Cwm
Gorffennaf 5: Noson y Blaid, Treletert
Gorffennaf 6: Tabernacl, Hwlffordd
Gorffennaf 7: Cyfarfod Blynyddol, Cangen Bontnewydd
Gorffennaf 9: Cinio dathlu pen-blwydd Llywodraeth "Cymru'n Un"
Gorffennaf 13: Cyffordd Llandudno
Gorffennaf 15: Cynhadldd Mudiadau "Dathlu'r Gymraeg", Caerdydd
Gorffennaf 31: Cynhadledd Faledi, Caerdydd, gyda Dafydd Iwan a Gwenan Gibbard
GORFFENNAF 28 - AWST 20: CYNHELIR CYFARFODYDD HYSTING ETHOLIAD
LLYWYDDIAETH PLAID CYMRU. MANYLION AR Y DDALEN HAFAN
AWST
Awst 4: Eisteddfod Genedlaethol, Caerdydd
Awst 6: Maes D: Dysgwyr yr Eisteddfod
Awst 7: Clwb y Llywydd, Ty Gwynfor, Schooner Way, Bae Caerdydd
Awst 12: Cerdded gyda Dylan Rees ar daith brotest yn erbyn cau Swyddfeydd Post Ynys Mon
Awst 14: Canu i blant Belarus, Penmaenuchaf Hall, Dolgellau
Awst 30: Sioe Llanddarog
MEDI
Medi12/13: Cynhadledd Plaid Cymru
TAITH HYDREF DAFYDD IWAN A'R BAND:
Medi 27: Clwb y Wylfa, Cemaes
Hydref 3: LYRIC, Caerfyrddin
Hydref 4: Theatr Felinfach
(Hydref 10: Symposiwm Canolfan Cymodi Ieithyddol, Bangor)
Hydref 11: Gwesty'r EMLYN, Castell Newydd Emlyn
Hydref 17: Ty Siamas, Dolgellau
Hydref 24: GALERI, Caernarfon
Hydref 25: Theatr ELLI, Llanelli
Tachwedd 7: Clwb Rygbi Penygroes, Rhydaman
NEWYDDION ARALL:
Mae CD newydd Dafydd, "Man Gwyn", yn awr yn y siopau, ac ar gael drwy wefan Sain (www.sainwales.com). Mae'r caneuon hyn - 15 ohonyn nhw - i'w clywed am y tro cyntaf ar CD.
Mae'r caneuon yn dilyn thema'r freuddwyd a symbylodd y Cymry i fentro i sefydlu "Cymru Newydd" ym Mhatagonia a mannau eraill, er fod Dafydd yn ei gwneud yn gwbl glir mai yma ar ddaear Cymru y mae o'n credu y dylen ganolbwyntio ar greu'r Gymru Newydd.
"Mae'r hyn a symbylodd gewri fel Michael D. Jones i feddwl am y Wladfa ym Mhatagonia yn rhywbeth sy'n dal i fod yn destun rhyfeddod i mi" medd Dafydd. "Michael D. oedd tad cenedlaetholdeb modern Cymru, ac yma ar ddaear Cymru y dewisodd ef aros ei hun, ond fe ysbrydolodd gannoedd i fentro'u bywydau i hwylio i Batagonia."
Mae'r thema o freuddwydion, ysbrydoliaeth a chenedlaetholdeb yn rhedeg drwy'r caneuon i gyd. Y trac cyntaf yw'r anthem "Ar y Mimosa", a'r trac olaf yw'r gan a drefnwyd gan Ar Log a Dafydd i gofio Gwynfor Evans, "Daeth yr awr, daeth y dyn". Cyflwynir y CD er cof am gyfaill oes Dafydd, Ray Gravell, a fu farw mor sydyn pan oedd y record wrthi'n cael ei recordio.
CAIO IWAN DROS GYMRU:
Mae Caio, mab 16 oed Dafydd a Bethan wedi ei ddewis i chwarae dros dim pel-droed dan 18 ysgolion Cymru, a chwaraeodd ei gem gyntaf yn erbyn Awstralia ym Merthyr Tudful ar Ionawr 25ain. Cafodd Caio, sy'n aelod o sgwad Dinas Bangor, ei gem gyntaf yng Nghyngrair Cymru yn erbyn Caernarfon ar Ragfyr 26 yn Ffordd Farrar.
Caio yn derbyn ei gap rhyngwladol wedi'r gem yn erbyn Lloegr yn Hwlffordd ar Ebrill 4ydd, 2008.
Gwelir isod luniau o ymweliad Dafydd Iwan i Bodmin i annerch Rali o blaid Cynulliad Etholedig
i Gernyw a drefnwyd gan Mebyon Kernow.
Llun uchaf: Dafydd gyda'r Cyng.Dick Cole, Arweinydd Mebyon Kernow, archeolegydd wrth ei broffesiwn
a gafodd ei addysg ym Mhrifysgol Cymru, Llambed , ac sy'n aelod o Blaid Cymru byth ers hynny.

Y DYN YMARFEROL
Ar hyd ei fywyd, y mae Dafydd Iwan wedi ceisio atebion ymarferol i'r cwestiynau sy'n wynebu Cymru.
*Fe'i argyhoeddwyd yn ifanc o'r achos dros ymreolaeth i Gymru; ymunodd a'r Blaid yn 14 oed ac fe'i etholwyd yn Gadeirydd cyntaf Ieuenctid y Blaid yn 1962.
*Gwelodd fod y Cymry'n canolbwyntio ar rai meysydd academaidd ar draul rhai mwy ymarferol, ac felly dewisodd astudio pensaerniaeth, a graddio yng Nghaerdydd yn 1968.
*Yn y 60au roedd yr iaith Gymraeg heb statws swyddogol, a bu'n ymgyrchu gyda Chymdeithas yr Iaith i newid hynny. Ef oedd un o'i Chadeiryddion mwyaf effeithiol.
*Yn nechrau'r 70au, roedd y cynnydd mewn tai haf yn bygwth y cymunedau gwledig, a sefydlodd gydag eraill Gymdeithas Tai Gwynedd, sy'n parhau i greu cartrefi yng Ngwynedd.
*Gwelodd bod angen cyflwyno'r dechnoleg newydd i'r byd adloniant Cymraeg, a sefydlodd gwmni Sain yn 1969 sydd bellach yn brif gwmni recordio Cymru, yn cyflogi 38 o bobl.
*Bu'n un o'r criw bach a helpodd y Dr. Carl Clowes i wireddu'r breuddwyd o sefydlu Canolfan Iaith a Diwylliant Nant Gwrtheyrn
*Roedd yn rhan o'r tim a helpodd R. Gwynn Davies i sefydlu un o'r canolfannau mwyaf arloesol i greu gwaith i rai dan anfantais yn Antur Waunfawr.
*Mae ei waith gyda Sain a Chwmni Cyhoeddi Gwynn wedi sicrhau fod cannoedd o gyfansoddwyr Cymru yn cael eu cydnabod yn deilwng am eu gwaith.
*O weld sut mae cymaint o eiddo a busnesau Cymru'n cael eu prynu gan gwmniau o'r tu allan i economi Cymru, sefydlodd gydag eraill gwmni Arianrhod sy'n prynu eiddo i'w gosod i fusnesau lleol.
*Gwelai'n glir yr angen i wneud y Gymraeg yn iaith adloniant; bu'n un o brif ffigyrau'r byd canu a theledu yng Nghymru, gan annog ac ysbrydoli cannoedd o gantorion a pherfformwyr eraill.
"Yn bennaf oll, mae angen i Blaid Cymru fod yn blaid anturus sydd am greu Cymru newydd hyderus, gwlad y bydd ei phobol yn barod i sefyll ar eu traed eu hunain a sylweddoli eu llawn botensial, yn falch o'u Cymreictod. Ac nid trwy fod yn amddiffynnol nac yn fewnblyg y mae gwneud hyn, ond trwy edrych allan i'r byd, ac anelu at fod yn rhan o'r byd hwnnw fel cenedl rydd, yn aelod llawn o Gymuned Ewrop y bobloedd, ac o'r Cenhedloedd Unedig fel yr unig gorff rhyngwladol a all sicrhau heddwch byd-eang."
Dafydd Iwan.
|