Croeso i wefan Dafydd Iwan

Cyfle i gael gwybodaeth am gefndir, dyddiadur, newyddion diweddaraf

a chynnyrch y dyn ei hun..................................................................

 

 Ffeithiau am Dafydd:

Fe'i ganwyd ar Awst 24ain, 1943, yn ail fab i'r diweddar Barchedig Gerallt Jones ac Elizabeth Jones. Mae ganddo dri brawd:

Arthur Morus ac Alun Ffred a'r diweddar Huw Ceredig. Fe'i ganwyd ym Mrynaman, a bu'n byw yn Llanuwchllyn, Gwyddgrug (Pencader),

Caerdydd a Phenarth cyn symud i Lanystumdwy a'r Waunfawr cyn setlo yn ei gartref presennol yn Rhos-bach, Caeathro, ger

Caernarfon.


Yn briod a Bethan sy'n enedigol o Garnfadryn, mae ganddyn nhw ddau fab: Caio (21 oed) , sy'n fyfyriwr ol-radd yn Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd, wedi graddio mewn Hanes, a Celt (19 oed), sy'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dilyn cwrs gradd Rheoli Busnes.


Plant o'i briodas gyntaf: Llion, Elliw a Telor. Mae Llion yn awdur, cynhyrchydd teledu a ffilm, ac yn Gomisiynydd rhaglenni Ffeithiol a Dogfen i S4C. Dyfarnwyd gradd Doethuriaeth i Llion am ymchwil ar y ffilm ddogfen.   Mae Elliw yn Swyddog Cangen y Coleg Cenedlaethol Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, a Telor yn ohebydd newyddion i BBC Cymru.

 

lluniau o'r albwm: