Home / Hafan
About / Amdan
News / Newyddion
Contact / Cysylltwch
 
Dafydd Iwan

TAITH 50 DI

Byddaf yn parhau i ddathlu hanner canrif o ganu gyda'r daith a fydd yn dechrau ar Fedi 21ain. Manylion llawn ar ddalen "Newyddion", ar wefan SAIN, ac ar 'facebook'.

Cofiwch am y 'bocset' o 219 o draciau sydd ar gael yn awr. Byddaf yn arwyddo'r rhain yn ystod y daith. Ond yn bwysicach - cofiwch ddod i ymuno yn y dathlu..........................

------------------------------------------------------------------------------------------

YR EISTEDDFOD

DIOLCH I BAWB a wnaeth noson "Degawdau Dafydd" mor gofiadwy ym Mhafiliwn Eisteddfod Bro Morgannwg: diolch i blant Adran Heol y March, Edward, Hefin, Miriam a Greta, Heather, Sioned, Sian a Lisa Grug, Gwyn Llewelyn, Gari, Charli, Pwyll, Euros a Wyn ac i Ar Log, ac yn arbennig i Dafydd am gyd-lynu'r cyfan ac i Hefin am ei drefniannau.

Roedd yn bleser cael dwyn i gof yr hanner can mlynedd difyr diwetha - ac rwy'n barod nawr am yr hanner canrif nesa!

Gwerthfawrogaf y tu hwnt i eiriau fod Jim Parc Nest wedi fy anrhydeddu gyda'r 'englyn penfyr' hyfryd hwn:

"Ein hudo wnei am nad ei'n hen - o'r gell

i'r gad dest fel heulwen;

dy arf ydyw llafn dy wen"-

 

A diolch dwbwl i staff Sain am gomisiynu'r darlun personol hwn gan un o fy hoff artistiaid, Catrin Williams . Fe'i trysoraf am byth, diolch o galon:

COFFA DA AM EILEEN BEASLEY, A WNAETH GYMAINT GYDA'I PHRIOD TREFOR I DDEFFRO CYMRU O'I THRWMGWSG YNGLYN A'R IAITH GYMRAEG. DIOLCH I'R DDAU OHONYN NHW YN BENNAF AM YSBRYDOLI YMGYRCHOEDD CYMDEITHAS YR IAITH DROS YR HANNER CANRIF DIWETHAF HYN.

A DIOLCH I JAMIE BEVAN DDEWR AM DDANGOS FOD Y FFLAM YN DAL I LOSGI. BYDDAF YN CANU YNG NGHANOLFAN NEWYDD SOAR YM MERTHYR TUDFUL AR FEDI'R 22ain A BYDD JAMIE YNO I GANU HEFYD GYDA'I FAND Y GWEDDILLION.

 

---------------------------------------------------------------------

LLONGYFARCHIADAU I ARWEINWYR CYNGHORAU SIR PLAID CYMRU, A PHOB

DYMUNIAD DA AR Y GWAITH CALED SYDD O'CH BLAENAU:

Dyfed Wyn Edwards: Gwynedd

Elen ap Gwynn: Ceredigion

Dilwyn Roberts: Conwy

-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

 

A CHROESO I ARWEINYDD NEWYDD PLAID CYMRU:

LEANNE WOOD

 

-----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Y FRWYDR AM SIANEL DELEDU'R CWRDIAID

Mae'n dda iawn gennyf adrodd fod ROJ-TV, y Sianel Deledu sy'n gwasanaethu miliynau o Gwrdiaid yn Nhwrci a gwledydd eraill, wedi ennill ei hachos mewn llys yn Copenhagen. Wel, o leiaf, mae'r llys wedi gwrthod y cais gan lywodraeth Twrci i gau'r orsaf deledu i lawr, ac y mae hyn yn fuddugoliaeth bwysig i achos y Cwrdiaid, ac i achos rhyddid y wasg a rhyddid gwybodaeth drwy'r byd yn gyfan. Serch hynny, gwelodd y llys yn dda i osod dirwy anferth o tua £400,000 ar ROJ-TV am ddangos gormod o gefnogaeth i frwydr y PPK. Mae'r orsaf wedi addo y bydd yn parhau gyda'i gwasanaeth yn yr iaith Gwrdaidd ac ieithoedd eraill, a pharhau i ddweud y gwir am yr hyn sy'n digwydd yn Nhwrci, ac am y miloedd sy'n dal i gael eu carcharu gan lywodraeth Twrci, a hynny am gefnodi'r achos Cwrdaidd.

Gallwn ni yng Nghymru uniaethu gyda'r frwydr hon, gan ei bod yn ymwneud a hawliau sylfaenol pobol i gadw eu hiaith a'u hunaniaeth, ac nid a chefnogi unrhyw weithredoedd militaraidd.

Yn y llun gwelir Imdat Yilmaz ar y chwith, Cyfarwyddwr presennol ROJ-TV, ac ar y dde un arall o weithwyr yr orsaf deledu. Mae hanes y gwr yn y canol, Akif Wan, yn crynhoi trasiedi a phenderfyniad y Cwrdiaid . Yn yr 80au, yr oedd yn athro ifanc yn Nhwrci, ond fe'i cyhuddwyd o fod yn rhy gefnogol i'r Cwrdiaid yn ei wersi, ac o roi gormod o bwyslais ar hawliau'r Cwrdiaid i'w hiaith a'i diwylliant a'i tiroedd traddodiadol, ac fe'i carcharwyd gan awdurdodau Twrci am saith mlynedd. Wedi ei ryddhau, fe'i alltudiwyd, ac mae ei basbort yn datgan hyd heddiw ei fod yn rhydd i fynd i unrhywle yn y byd ond i'w wlad enedigol. Mae'n gweithio bellach fel Cynrychiolydd Cyngres Genedlaethol Cwrdistan yn Llundain, ac mae'n flaenllaw yn y gwaith o gadw cysylltiad gyda phleidiau gwledydd Prydain i ennill eu cefnogaeth i achos y Cwrdiaid.

Mae'n dda gennyf ddweud fod Aelodau Seneddol ac Aelodau Ewropeaidd Plaid Cymru a record dda o gefnogi eu hachos.

-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

COFIO HUW

Diolch i bawb am bob mynegiant o gydymdeimlad wrth i Arthur Morus, Alun Ffred a minnau golli'n brawd Huw Ceredig .

Bydd Cymru'n llwytach lle wedi colli cymeriad mor lliwgar, a gwladgarwr mor dwymgalon, a bydd colled Margaret ei briod a Lowri a Leah ei ferched a'u teuluoedd yn fawr . Coffa da amdano, a boed i'r atgofion am yr hwyl a gafwyd ein hysbrydoli i ddal ati, fel y byddai Huw am i ni wneud.

HUW CEREDIG 1942 - 2011

---------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

 

WEDI REFFERENDWM MAWRTH 2011:

Dyma gychwyn ar gyfnod newydd yn hanes Cymru, gyda Senedd etholedig sydd a phwerau deddfu mewn 20 o feysydd allweddol. Yn anffodus, llywodraeth Lafur sydd mewn grym, ac eisoes mae arwyddion clir nad oes ganddyn nhw weledigaeth nac uchelgais ar gyfer Cymru o gwbwl. Am rwan, allwn ni wneud dim ond eu hannog i weithredu, a datblygu ein gweledigaeth ein hunain ar gyfer y dyfodol.

CYMRU GYFAN YN DWEUD "IE"!

Gwych oedd gweld y genedl ben-baladr ym mis Mawrth yn dangos y fath ffydd a hyder yn ein gallu fel Cymry i benderfynu drosom ein hunain pa ddeddfau fydd angen arnom yn y dyfodol.

Ond wrth edrych ymlaen at yr etholiad ar Fai'r 5ed, dyma a ddwedais:

....peidiwn byth a gadael i Lafur reoli ar eu pen eu hunain! Heb Blaid Cymru i gadw trefn arni, ac i'w hatgoffa mai buddiannau Cymru ddylai ddod gynta, byddai Cymru dan lywodraeth Lafur mewn perygl unwaith eto.

 

-----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

 

www.dafyddiwan.com

www.sainwales.com

www.plaidcymru.org

www.taigwynedd.com

(Gweler dalen "Newyddion" am Ddyddiadur Dafydd Iwan, ac am y diweddaraf am ddymchweliad Llais Gwynedd!))

newyddion diweddaraf!

STATWS NEU DDEFNYDD?

 

FY ARAITH OLAF FEL LLYWYDD Y BLAID, Aberystwyth, Medi 2010:

Annwyl gyd-genedlaetholwyr,

Fy mhrif waith i yma heddiw yw cyflwyno Llywydd newydd y blaid hon, a’i gwahodd i draddodi ei haraith gyntaf fel Llywydd i gloi’r Gynhadledd am eleni.

Ond cyn gwneud hynny, dwi am ddiolch ichi am yr anrhydedd o gael bod yn Llywydd ar y blaid hon, ac am eich cefnogaeth gynnes imi dros y saith mlynedd ddiwethaf. Saith mlynedd a welodd newid mawr yn y Blaid, yn swyddogaeth y Llywydd, a newid aruthrol yn y modd y mae Cymru’n cael ei llywodraethu. Saith mlynedd a welodd y Blaid hon yn tyfu’n blaid aeddfetach a mwy proffesiynol, yn hyderus ac yn hapusach efo hi ei hun.

Mor dda hefyd yw gweld cynifer o bobl ifanc dalentog yn rhan o’r Gynhadledd ysbrydoledig hon. Ac y mae cael croesawu Ron Davies yma fel aelod, a darpar ymgeisydd i’r Blaid, yn uchafbwynt gwych i dymor fy llywyddiaeth.

Saith mlynedd yn ol, roedd ein Cynulliad cenedlaethol yn megis cropian, a doedd neb yn rhy siwr beth fyddai agwedd pobol Cymru tuag at y sefydliad newydd, a neb yn siwr a fyddai’n llwyddo i ennill ymddiriedaeth y genedl, neu’n dymchwel yn siwrwd i fôr o siniciaeth, yn swn crechwen sarhaus y wasg Brydeinig. Ond yn raddol, enillodd ei blwy, enillodd barch y bobol o dipyn i beth, ac wrth iddo fagu hyder a phrofiad, daeth y cyfyngiadau oedd arno fwyfwy i’r amlwg.

Yn ystod y saith mlynedd hyn, gwelsom y pleidiau Prydeinig yn y Cynulliad yn Cymreigio’n raddol, ac yn dod yn rhan o wleidyddiaeth Gymreig newydd, a gwelsom y gefnogaeth ar draws y pleidiau yn tyfu i ychwanegu at rymoedd y Cynulliad, ac unfrydedd barn rhyfeddol dros gael pwerau deddfu yma yng Nghymru. Mewn gair, yr hyn sydd wedi digwydd yw fod y pleidiau eraill wedi symud yn ddiarwybod yn nes at ein safbwynt ni, gymaint felly fel bod rhai yn gofyn onid yw ein gwaith ni wedi ei wneud; onid ydym wedi cyflawni ein pwrpas?

Gyfeillion, do mae Plaid Cymru wedi llwyddo i osod sylfeini’r Gymru newydd, ond mae llawer mwy eto i’w gyflawni, a’r wers amlwg i bawb yw na fydd yna adeiladu ar y sylfeini hynny heb i ni roi’r arweiniad, heb i Blaid Cymru barhau i atgoffa’n pobol mai cenedl sydd yma ar ei ffordd i ryddid. Nid newid ychydig ar fecanwaith llywodraethol Prydain yw ein nod ni, ond creu partneriaeth newydd o genhedloedd rhydd a all ddod a deinameg newydd, syniadau newydd, diwylliant newydd i Brydain, i Ewrop ac i’r byd.

Er mor hanfodol yw ennill y refferendwm er mwyn gwneud y Cynulliad yn sefydliad mwy effeithiol, er mor bwysig yw ennill pwerau deddfu er lles Cymru a’i phobl, y mae yna ffordd bell i fynd eto.

Chafodd Plaid cymru ddim mo’i sefydlu 85 mlynedd yn ol er mwyn cael gwared o’r LCO!

“Fe’n ganwyd i lawenydd uwch nag sy ‘mhleserau’r llawr”os caf faddeuant Pantycelyn.

Annerch Cynhadledd Mebyon Cernyw

Mae sefydlu’r Cynulliad, a’i osod ar sylfeini cadarn eisoes wedi newid agweddau ymhlith pobol Cymru. Y mae yma fwy o hunan-hyder, mwy o falchder ynom ein hunain, mwy o fri ar Gymreictod, mwy o gefnogaeth i’r iaith Gymraeg, a gweithgarwch sy’n gwthio’r ffiniau a chodi’r safonau ym maes y celfyddydau creadigol, ym myd busnes a menter, ym maes cyffrous yr amgylchedd a thwristiaeth ddiwylliannol, ac ym maes chwaraeon. Dyden ni ddim mwy yn bodloni ar yr eilradd, ac y mae athrylith ein pobol yn gwneud ei farc yn rhyngwladol. Mae’r cyfan hyn yn rhan o’n cenhadaeth ni fel plaid; nid dweud ydw i wrth reswm pawb ein bod yn gwneud hyn ar ein pennau ein hunain. Rhan hanfodol o’n neges ni yw mai gyda’n gilydd fel cymuned o bobol sy’n cyd-fyw a chyd-weithio a chyd-ddyheu a chyd-chwarae yma yng Nghymru, gyda’n gilydd, yn amrywiaeth ein cefndiroedd a’n diwylliant, ein hieithoedd a’n doniau, gyda’n gilydd y gallwn ni greu y Gymru newydd ddewr a fydd yn chwarae ei rhan ar lwyfan y byd.

Ac i barhau i gyflawni fel plaid, rhaid inni gadw’r nod yn glir. Wrth gydweithio gydag eraill, ac yn arbennig wrth fod yn rhan o glymblaid mewn llywodraeth, y mae yna adegau pan yw cyfaddawdu yn anochel. Ond fel y gwnaeth Ieuan yn glir yn ei araith, rhaid inni gadw ein delfryd yn glir ac yn danbaid; rhaid inni beidio a cholli’r tan yn ein boliau, rhaid inni beidio a cholli’r weledigaeth a roddodd fod i Blaid Cymru 85 mlynedd yn ol.

Ac y mae’n werth inni nodi rhai o’r gwerthoedd hynny sy’n sail i’n bodolaeth fel plaid. Yr yden ni’n credu mewn cymdeithas lle mae pawb yn gyfartal, ac ryden ni’n credu mewn gweithio i ddileu’r rhaniadau sy’n parhau i wahanu pobol oddi wrth ei gilydd. Dyna pam y mae dileu tlodi mor ganolog bwysig inni fel plaid, a dyna pam y mae creu cyfleoedd cyfartal i bawb mewn addysg, yn y gwasaneth iechyd, yn y gweithle mor agos at ein calon. Ac y mae dileu pob rhagfarnu a gwahaniaethu yn ein cymdeithas bob amser yn mynd i fod yn flaenoriaeth i ni, boed hynny yn wahaniaethu ar sail iaith, crefydd, hil, anabledd neu ryw .

Annerch cynhadledd EA, Guernica, Gwlad y Basg

Ac wrth sefyll dros yr iaith Gymraeg, wrth fynnu bod yr iaith Gymraeg yn cael ei lle ym mhrif ffrwd ein bywyd cenedlaethol, nid sefyll dros leiafrif yden ni, ond dileu rhagfarn a gwahaniaethu, dangos bod yr iaith Gymraeg fel unrhyw iaith swyddogol arall yn y byd yn haeddu ei lle ymhob cylch o’n bywyd fel gwlad. Y dydd o’r blaen mi ges i gip ar sut y mae pobol ym mhen draw’r byd yn ein gweld:

It was a fascinating glimpse of how others see us. I don’t know if you were aware of it, but we have a Plaid branch in Melbourne, Australia. Not only do the Welsh run the government in Australia, but Plaid is making inroads as well! This branch had raised some money and decided to send it to help the work done in Wobash University in support of the Wayine people, one of the aboriginal languages fighting for survival. Professor John Bradley, who leads the team in this work, sent a warm message of thanks, and said that the way languages like Welsh had survived colonialism was a constant source of inspiration to him in his work with the waniye people. The English language was taken to Australia and virtually wiped out all the indigenous languages spoken there, but the Welsh language has survived here, so near to the very heart of the British Empire. And we must never let it go, and the only way to make sure it survives is to use it. And we in Plaid believe it belongs to all of us, whether Welsh speaking or not, and we can be proud of the work done by Plaid councillors all over Wales to promote it.

And I am proud of the support of those Welsh people, who are Welsh to the core, but have been deprived of the chance to speak the language themselves. It was so heartening to see the tremendous support given to the Eisteddfod in Ebbw Vale this summer; it was such a great experience.

But I have a warning to the young people of Wales, especially those who have been educated in Welsh – do not take the language for granted! The present threat to S4C is proof that the price of survival for the Welsh language, and every other language in a similar position, is eternal vigilance. And so it is with the survival of the Wesh natiom – we must never take it for granted, for there will always be forces at work to marginalize us, to downgrade us, to act as if we did not exist. Our job in Plaid Cymru is to make sure this can never happen again.

We are in business to make sure Wales stays in business. We exist to make sure that Wales exists, and survives to make its unique contribution to a peaceful and sustainable world.

Mae yna werthoedd eraill sy’n agos at galon y blaid hon, sef ein bod yn rhoi pobol yn y canol wrth greu polisiau. Pobol nid pethau, pobol nid cyfalaf, pobol nid elw. Ac i ni, does yna ddim problem wrth inni amddiffyn rol y sector gyhoeddus. Wrth gwrs bod rhaid iddi fod yn effeithlon, wrth gwrs bod angen osgoi gwastraff, a defnyddio arian yn ddarbodus. Ac wrth gwrs mi allwn ni ddysgu llawer oddi wrth y sector breifat, ac annog cydweithio rhwng y sector gyhoeddus a phreifat lle mae hynny’n gwneud synnwyr. Ond yn y pen draw, yr unig ffordd y gall cymdeithas sicrhau gwasanaeth cyfartal i bawb, o bob oed, ym mherfeddion cefn gwlad ac ynghanol y ddinas, yw fod yr awenau yn nwylo’r sector gyhoeddus yn hytrach nag yn nwylo rhai sydd a’u prif ddiddordeb mewn gwneud elw. Nid mater o fod yn erbyn y sector breifat mo hyn, ond dweud yr amlwg; mae’r sector breifat yn well am redeg busnes, ac mae’r sector gyhoeddus yn well am ddarparu gwasanaeth cyfartal i bawb. Y berthynas rhwng y ddau sy’n bwysig, a sicrhau mai’r bobol sydd ar eu hennill.

Cefnogi'r ymgyrch dros Ddeddf Iaith Wyddeleg

Cyn trosglwyddo’r awenau i Jill, rwyf am orffen drwy son am faes sy’n agos at galonnau’r ddau ohonom. Mae cyfraniad Jill i achos heddwch a diarfogi niwclear yn wybyddus i chi gyd, ac mi garwn, wrth ei chroesawu i lywyddiaeth y blaid, ddiolch iddi o waelod calon am ei gwaith diarbed dros y blynyddoedd dros heddwch a chyfiawnder rhyngwladol. Mae’n destun balchder imi, er mor drychinebus o drist fu hynt y rhyfeloedd yn Irac ac Afghanistan, fod y Blaid wedi gwrthwynebu’r rhyfel di-angen yn Irac o’r dechrau, ac wedi galw ers tro am ddod a’r milwyr yn ol o Afghanistan. Mae rhai yn mynnu bod hyn gyfystyr a pheidio dangos cefnogaeth i’r milwyr. Y fath haerllugrwydd. Y rhai sy’n dangos diffyg parch i fywydau ein milwyr yw’r rhai sy’n eu cadw i ymladd mewn rhyfel nad oes modd ei ennill, lle nad oes neb yn elwa ond y gwneuthurwyr arfau, a gwaeth na hynny, eu cadw nhw yno ar ol cyhoeddi y byddan nhw’n dod oddi yno ymhen blwyddyn. Wedi cyfnod y bomio gwersylloedd hyfforddi Al Qaeda, a ymladdwyd erioed y fath ryfel di-gynllun, di-bwrpas a chreulon o ddi-bwrpas? Does dim pwrpas o gwbwl i unrhyw filwr o Gymru nac o unrhywle arall i farw yn rhyfel Afghanistan eto - dewch a nhw adre yn enw pob rheswm!

Ac wrth i ni greu ein Cymru newydd, byddwn yn hollol glir nad ein bwriad ni fydd ymuno mewn unrhyw ras arfau, na bod yn rhan o unrhyw fasnach rhyngwladol mewn arfau rhyfel, ac na fyddwn ni byth yn gefnogol i arfau niwclear, Ac y mae llawer ohonom yn poeni fod llawer gormod o dir ein gwlad yn cael ei ddefnyddio y dyddiau hyn i hyfforddi ar gyfer rhyfel, ac i ddatblygu arfau megis yr awyrennau di-beilot sy’n cael eu defnyddio mewn rhyfeloedd nad oes a wnelon ni ddim a nhw. Dyna pam yr wyf yn croesawu’r drafodaeth ar sut fath o lu sifil fydd ei angen arnon ni fel cenedl rydd fel y gallwn ni wneud ein rhan fel aelodau o’r Cenhedloedd Unedig i gadw’r heddwch, ac i amddiffyn ein cymunedau ein hunain.. Mae’n hen bryd inni ddechrau gweithio a’n holl egni i greu cymdeithas sy’n mawrygu heddwch yn hytrach na militariaeth, sy’n rhoi’r flaenoriaeth i gymod yn hytrach na gormes, ac i bregethu’r angen i bobol drafod yn hytrach na chredu bod y gwn a’r bom yn ateb i bob problem. Dyna pam yr ydw i’n llwyr gefnogol i sefydlu Academi Heddwch a Hawliau Dynol i gefnogi gwaith ein Cynulliad Cenedlaethol, ar linellau tebyg i’r un sydd wedi ei sefydlu eisoes yn Fflandrys.

Unwaith eto, diolch ichi am eich cefnogaeth, a phob hwyl ichi un ac oll wrth inni ymgyrchu gyda’n gilydd dros bleidlais gadarnhaol yn y refferendwm dros bwerau’r Cynulliad, ac i sicrhau ethol y tim mwyaf erioed dros Blaid Cymru i’r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai.

 

---------------------------------------------------------------------------------------------

 

-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

HWN YW'R DEGAWD Y BYDDWN YN CAMU O'R CYSGODION I LYGAD YR HAUL............................

Y cam mawr cyntaf oedd sicrhau, drwy refferendwm ym mis Mawrth 2011, fod ein Cynulliad Cenedlaethol yn cael pwerau deddfu llawn yn y meysydd a ddatganolwyd.

O'r diwedd y mae pobol - a llawer o wleidyddion - Cymru yn meddwl am Gymru fel uned genedlaethol, ac yn ystyried gwleidyddiaeth yn nhermau Cymru. Megis dechrau y mae'r daith, ond y mae'r trawsnewid hwn wedi bod yn chwyldro ynddo'i hun. Diolch i bawb ohonoch a fu'n rhan o'r newid hwn.

----------------------------------------------------------------------------------------------

Mae sawl un ohonoch wedi gofyn am eiriau "Yma o hyd", felly dyma nhw:

YMA O HYD

 

Dwyt ti'm yn cofio Macsen, does neb yn ei nabod o

Mae mil a chwe chant o flynyddoedd yn amser rhy hir i'r co'

Aeth Magnus Maximus o Gymru yn y flwyddyn tri chant wyth tri

A'n gadael yn genedl gyfan, a heddiw - wele ni!

Cytgan

Ryn ni yma o hyd! Ryn ni yma o hyd!

Er gwaetha pawb a phopeth (x3)

Ryn ni yma o hyd!

 

Chwythed y gwynt o'r dwyrain, rhued y storm o'r môr

Hollted y mellt yr wybren a gwaedded y daran encôr

Llifed dagrau'r gwangalon a llyfed y taeog y llawr

Er dued y fagddu o'n cwmpas, ry'n ni'n barod am doriad y wawr!

 

Cofiwn i Facsen Wledig adael ein gwlad yn un darn

A bloeddiwn gerbron y gwledydd 'Byddwn yma hyd Ddydd y Farn!'

Er gwaetha pob Dic Siôn Dafydd, er gwaethaf y gelyn a'i griw

Byddwn yma hyd ddiwedd amser, a bydd yr iaith Gymraeg yn fyw!

Geiriau Dafydd Iwan, hawlfraint Cyhoeddiadau Sain

--------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------


-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Rhifau a chyfeiriadau Dafydd Iwan:

01286.676004 - cartre
07984202922 - symudol

07787875213 - ffon car
dafyddiwan@cymru1.net

"CARROG", RHOS-BACH, CAEATHRO, CAERNARFON, GWYNEDD, LL55 2TF

-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

DYFYNIADAU O AREITHIAU DAFYDD IWAN:

Chwe chan mlynedd yn ol, roedd Owain Glyndwr wedi ennill nifer o frwydrau allweddol, wedi ennill parch a chefnogaeth nifer o unigolion dylanwadol yng Nghymru a thramor, wedi ffurfio cytundeb hanesyddol gyda Ffrainc, ac wedi cynnull ynghyd ei Senedd gyntaf. Roedd yr ymgyrch am ryddid Cymru wedi dechrau o ddifri. Chwe chan mlynedd yn ddiweddarach, ryden ni'n dal i ddisgwyl am Senedd. Mae gyda ni Gynulliad, ond diolch i'r Blaid Lafur mae'n Gynulliad heb bwerau deddfu sylfaenol, ac heb bwerau trethu o gwbwl. Sefydlodd y Blaid Lafur Gomisiwn Richard; gwariwyd miliwn o bunnau, ymgynghorwyd yn eang, a chafwyd Adroddiad unfrydol oedd yn gosod allan yn glir ac yn rhesymegol pam fod yn rhaid cael pwerau deddfu cynradd, 80 o aelodau wedi eu hethol drwy STV, ac yn ddelfrydol, pwerau trethu yn ogystal.

Nid Comisiwn Plaid Cymru oedd hwn, fe wyddem ni na fyddai fyth yn mynd yn ddigon pell i gynnig hunan-lywodraeth lawn i Gymru, ond yr oedd yn gyfle gwych i'r Blaid Lafur symud y broses ymlaen a rhoi pwerau i'r Cynulliad i lywodraethu Cymru'n fwy effeithlon. Ond beth wnaeth Llafur? Yr hyn maen nhw'n gneud bob tro, sef dim o bwys. Eistedd ar eu dwylo a derbyn y ddogfen fwya cymysglyd a di-gyfeiriad sy'n son am bopeth ond yn dweud dim, yn claddu eglurder disglair Adroddiad Richard mewn cybolfa aneglur. Unwaith yn rhagor, mae Llafur wedi bradychu pobol Cymru, a'u Haelodau Seneddol di-asgwrn-cefn wedi rhoi eu jobs a'u dyfodol eu hunain o flaen lles Cymru. Unwaith yn rhagor, rhaid i Blaid Cymru arwain yr ymgyrch dros sefydlu Senedd go iawn a fydd yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywydau ein pobol a'n cymunedau. Mae'r frwydr yn parhau!

Ac i sicrhau llwyddiant, rhaid parhau gyda'r gwaith o adeiladu rhwydwaith effeithiol o ganghennau led-led Cymru. Ac fel y dywedais wrth gael fy ethol i'r swydd hon, rwyf am weld pob rhan o'r blaid hon yn cael yr un amlygrwydd: grwp ein haelodau yn y Cynulliad Cenedlaethol, grwp ein haelodau yn San Steffan, ein haelod ar Senedd Ewrop, ein cynghorwyr ar y Cynghorau Unedol, Tref a Chymuned, a'n haelodau cyffredin mewn canghennau ar hyd a lled Cymru. Mae'n bwysig fod yr holl haenau yma yn gweithio gyda'i gilydd, a phawb yn teimlo eu bod yn rhan o'r gwaith mawr o wella ansawdd bywyd pobol Cymru. Wedi'r cyfan, am hynny yden ni'n son. Does dim pwrpas i fodolaeth unrhyw blaid wleidyddol os nad yden ni'n gallu gwneud gwahaniaeth i fywydau-bob-dydd ein pobol.

Beth bynnag yw ein dyheadau am ddyfodol Cymru a'r byd, pa egwyddorion bynnag sy'n gyrru ein polisiau, does dim ystyr iddyn nhw os nad yden ni'n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i amgylchiadau byw pobol Cymru. Beth sy'n cyfrif yw hawl pobol i gartref addas am bris neu ar rent y gallan nhw fforddio,hawl pobol i waith addas am gyflog teg, hawl pobol i bensiwn teg wedi oes o waith, hawl pobol i amgylchedd glan, iach a diogel, i wasanaeth iechyd a gofal yn ol eu hangen ac nid yn ol eu gallu i dalu, a system addysg sy'n paratoi ein plant ar gyfer bywyd ac yn rhoi iddyn nhw'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i gael gwaith. Yr holl bethau hyn yw craidd ein bodolaeth fel plaid; - gwella ansawdd bywyd pobol Cymru, dyna yw pwrpas bodolaeth Plaid Cymru..........................................

 

Ydw, dwi'n diolch i'r drefn fod fy nhraed ar y ddaear ac nad wyf yn gorfod byw mewn unrhyw swigen artiffisial, boed honno yn San Steffan neu ym Mae Caerdydd. Ond dyw cadw'n traed ar y ddaear a byw yn y byd real ddim yn golygu na allwn gadw'r freuddwyd yn fyw. Dyw cadw'n traed ar y ddaear ddim yn golygu na allwn gadw'r ddelfryd yn glir. Ac wrth inni ymgyrchu i ennill Senedd i Gymru fydd a'r pwerau i wneud gwahaniaeth i fywydau ein pobol, mae'n bwysig ein bod yn cadw'r freuddwyd yn fyw am y Gymru a all yn y dyfodol, gyda chefnogaeth ei dinasyddion, gymryd ei lle ymhlith cenhedloedd Ewrop a'r byd fel gwlad yn ei hawl ei hun, gyda'i Senedd ei hun, yn siarad 'i llais ei hun, yn siarad yn huawdl dros ryddid, yn siarad yn huawdl dros heddwch. Dylai aelodau Plaid Cymru fedru gweiddi ar dop eu llais:

Caniatewch i ni ein delfryd!
Caniatewch i ni ein breuddwyd!
Caniatewch i'n cenedl yr hawl i fyw!

 

Cysylltwch:
Ffon: 01286.676004: Telephone
Symudol: 07984202922: Mobile
e-bost: dafyddiwan@cymru1.net: e-mail